Sanau trwchus Glacier hyd at uchder yr esgid

Os mai dim ond un pâr o sanau y gallech ei gael, peidiwch ag edrych ymhellach.  Yn sychu’n gyflym ac yn wydn, mae’r sanau hyn yn gweithredu fel thermostatau drwy oeri neu gynhesu’n naturiol pan fo angen.  Mae’r sawdl a’r bysedd traed wedi’u hatgyfnerthu yn cynyddu cysur a gwydnwch, tra bod cynhaliaeth bwa’r droed yn gwella cylchrediad ac yn lleihau blinder y traed.  Wedi’u dylunio i osgoi pothelli, ac yn gynhenid ddiarogl, bydd y sanau hyn yn mynd â chi o hela mewn mynydd eira i heic yn Death Valley.  Wedi’u gwneud yn UDA.

Cynnwys: 65% Gwlân Merino, 24% Nylon, 8% Elastig, 3% Lycra®

Meintiau esgidiau dynion: Canolig (5-8), Mawr (9-12), Mawr Iawn (13-15)

Meintiau esgidiau menywod: Bach (4-7), Canolig (8-11)